SL(6)453 – Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mewnforio Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel Nad Ydynt yn Dod o Anifeiliaid) (Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793) (Cymru) 2024

Cefndir a Diben

Mae Rheoliad a Ddargedwir 2019/1793[1] yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu, mewn perthynas â Chymru, y rhestrau a nodir yn Atodiadau 1 a 2 o Reoliad a Ddargedwir 2019/1793 yn rheolaidd o leiaf bob chwe mis, a hynny er mwyn ystyried gwybodaeth newydd sy’n ymwneud â risgiau a diffyg cydymffurfio.

Mae’r adolygiad hwnnw wedi’i gynnal gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban i sicrhau bod nwyddau risg uwch yn parhau i fod yn destun rheolaethau uwch wrth iddynt ddod i mewn i Brydain Fawr drwy Safleoedd Rheoli Ffiniau (BCPs). Mae rheolaethau o’r fath yn cynnwys archwiliadau dogfennol, hunaniaeth a ffisegol gan gynnwys samplu mewn safleoedd rheoli ffiniau dynodedig.

Mae’r Atodiadau i Reoliad a Ddargedwir 2019/1793 yn cynnwys rhestrau o nwyddau bwyd a bwyd anifeiliaid sydd naill ai’n destun cynnydd dros dro mewn rheolaethau swyddogol, yn destun mesurau brys neu’n destun ataliad mynediad i Brydain Fawr. Yn dilyn yr adolygiad, mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud newidiadau i’r Atodiadau y gellir eu crynhoi’n fras fel a ganlyn:

§  mae 2 nwydd wedi’u tynnu o gwmpas y rheolaethau;

 

§  bydd 4 nwydd yn destun lefel is o reolaethau;

 

§  bydd 3 nwydd yn destun lefel uwch o reolaethau;

 

§  bydd 20 o nwyddau newydd yn destun rheolaethau am y tro cyntaf; ac

 

§  mae codau ‘CN’ 10 o nwyddau newydd wedi cael eu diwygio.

Yn ogystal, mae'r offeryn yn mewnosod Atodiad 3a newydd yn Rheoliad a Ddargedwir 2019/1793 ac yn diwygio Erthyglau 4 a 10 o'r rheoliad hwnnw i bennu’r dull samplu a dadansoddi rhagnodedig ar gyfer rheoli presenoldeb Listeria mewn bwyd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru a bydd rheoliadau cyfatebol yn cael eu gwneud yn Lloegr a’r Alban, sy’n golygu, unwaith y bydd deddfwriaeth yn ei lle i sicrhau bod defnyddwyr ym Mhrydain Fawr yn cael eu diogelu rhag bwyd a bwyd anifeiliaid nad ydynt yn dod o anifeiliaid sydd â’r risg uchaf trwy reolaethau ar ffin Prydain Fawr.

Dim ond trwy Safleoedd Rheoli Ffiniau sydd eisoes wedi’u sefydlu ym Mhrydain Fawr y gellir mewnforio nwyddau risg uchel. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw Safleoedd Rheoli Ffiniau (BCPs) yng Nghymru felly, ni all y nwyddau hyn, fel y maent ar hyn o bryd, gael eu mewnforio yn uniongyrchol i Gymru o drydydd gwledydd.

Yn unol â rhwymedigaethau rhyngwladol y DU, anfonwyd hysbysiad o’r diwygiadau arfaethedig at Sefydliad Masnach y Byd. Derbyniwyd dau sylw. Gofynnodd llywodraeth Twrci am eglurhad ar gnau cyll, a gofynnodd llywodraeth Unol Daleithiau America am fwy o dystiolaeth mewn perthynas â phast cnau daear.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, yn yr Atodiad 2 newydd i Reoliad a Ddargedwir 2019/1793, yn Nhabl 1, yn y cofnod ar gyfer Sudan (SD), yn yr ail golofn, yn y testun Cymraeg, mae’r geiriau Saesneg “Groundnut flours and meals” wedi cael eu cyfieithu i’r Gymraeg fel “Blawd a phrydau bwyd cnadaear”. Fodd bynnag, ni ddylai'r geiriau hyn fod wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg oherwydd na wnaed Rheoliad a Ddargedwir 2019/1793 yn Gymraeg (gan nad yw’n un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd). Felly, dylai'r geiriau hynny ymddangos yn Saesneg yn fersiynau'r ddwy iaith o'r cofnod hwn ar gyfer Sudan yn yr Atodiad 2 newydd, fel y nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodwyd pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

14 Chwefror 2024



[1] Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn a ddargedwir (EU) 2019/1793 ar y cynnydd dros dro mewn rheolaethau swyddogol a mesurau brys sy’n llywodraethu mynediad nwyddau penodol o drydydd gwledydd penodol i’r UE.